Mae nifer o sêr y byd Cymraeg, gan gynnwys y cantorion Kizzy Crawford a The Gentle Good, wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad yng nghastell Caerdydd i dynnu sylw at ddigartrefedd.

Yn ymuno â nhw neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 7) roedd yr actores Ruth Jones, y bardd Patrick Jones a’r gantores ac ymgyrchydd Charlotte Church.

Roedden nhw ymhlith cannoedd o bobol eraill sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y byd, ac mae bron i £90,000 wedi cael ei godi yng Nghymru eisoes.

Mae’r holl arian o’r digwyddiad, a gafodd ei drefnu gan yr elusen Llamau, yn mynd at elusennau sy’n helpu pobol ddigartref.

Roedd yn un o nifer o ddigwyddiadau tebyg ar draws y byd, gydag eraill yn cymryd rhan yn Lludain, Efrog Newydd, Los Angeles, Caeredin, Chicago, Newcastle, Dulyn, Brisbane a dinasoedd eraill.