Mae etholaeth Wrecsam wedi bod yn nwylo Llafur ers 1935 – gan eithrio dwy flynedd dan Ddemocrat Cymdeithasol – ond eleni mae cryn ddyfalu y gallai’r Ceidwadwyr ei chipio.

Dyma etholaeth sy’n un o nifer o rai Llafur yng ngogledd ddwyrain Cymru sy’n cael eu targedu gan y Torïaid, oherwydd eu bod wedi pleidleisio o blaid Brexit yn refferendwm 2016.

Pe bai Boris Johnson yn cipio Wrecsam ac etholaethau cyfagos oddi ar Lafur, y darogan yw y byddai ganddo’i fwyafrif i sicrhau Brexit a llywodraethu Prydain.

Ac mae’r ymgeisydd Llafur yn Wrecsam yn dweud bod yr ornest gyda’r Torïaid yno am fod yn “dynn hyd at y munud olaf”.

“Dw i’n credu bydd pethau’n dynn hyd at y funud olaf, a bod yn onest,” meddai Mary Wimbury wrth golwg360.

“Mae wedi bod yn dynn yn y ddau etholiad diwethaf.

“A dw i’n credu ei fod yn mynd i fod yn dynn unwaith eto rhyngom ni a’r Torïaid yr wythnos nesaf. Dw i’n gobeithio bydd pobol Wrecsam ddim eisiau [ethol] Tori …

“A dw i’n gobeithio byddan nhw ddim eisiau rhoi mwyafrif i Boris Johnson fel ei fod yn medru gwneud fel mae’n licio am y pum mlynedd nesaf.”

Enillodd Llafur 48.9% o’r bleidlais yn Wrecsam adeg etholiad 2017, a daeth y Ceidwadwyr yn ail gyda 43.7% o’r bleidlais.

Mae’r Welsh Baromiter Poll diweddaraf wedi darogan mai’r Torïaid fydd yn mynd a hi eleni.

Cymudwyr i Gaer

Mae rhai wedi dadlau bod llwythi o gymudwyr i Gaer bellach yn byw yng ngogledd ddwyrain Cymru, a bod hynny’n debygol o ddryllio gobeithion Llafur yno.

Mae cryn ddyfalu y gallai’r gogledd ddwyrain droi o fod yn goch i fod yn las yn yr etholiad yma, ac mae ambell un wedi awgrymu mai Llywodraeth Cymru fyddai’n rhannol gyfrifol hynny.

Y ddadl yw bod Llywodraeth Cymru wedi denu cymudwyr ariannog trwy ganiatáu adeiladu cymaint o dai yno. Mae Mary Wimbury yn wfftio hynny.

“Rydym wedi profi newid demograffeg ledled y wlad,” meddai. “Yn amlwg, mae diwydiannau traddodiadol wedi mynd i ffwrdd.

“Digwyddodd llawer o hynna yn ystod blynyddoedd [y cyn-Brif Weinidog, Margaret] Thatcher, ac mae angen swyddi arnoch i gymryd lle’r rheiny.

“Dw i’n credu bod pobol sydd wedi symud o Wrecsam i’r ystadau newydd o’i chwmpas yn ystyried y disgrifiad yna’n sarhad.”

“Obsesiwn â’r iaith”

Tynnodd Chris Bryant, ymgeisydd y Blaid Lafur yn y Rhondda, nyth cacwn am ei ben echdoe ar ôl dweud bod gan ymgeisydd Plaid Cymru yn y Rhondda  “obsesiwn â’r iaith”.

Mae Mary Wimbury wedi dysgu Cymraeg, ond does ganddi ddim i’w ddweud am sylwadau Chris Bryant.

“Dw i heb weld clip gan Chris,” meddai. “Oll alla’ i ddweud ydy fy mod wedi dysgu Cymraeg a bod Cymraeg yn bwysig i mi a fy nheulu – ac fel cynrychiolydd Wrecsam byddai hynny’n parhau.”