Mae angen “chwyldro rheilffyrdd” yng Nghymru gan fod yr isadeiledd presennol “ar chwâl”.

Dyna fydd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, yn ei ddweud cyn ymweld ag Ynys Môn yn ddiweddarach.

Mi fydd yn teithio o Gaerdydd, a chyn gadael mi fydd hefyd yn rhybuddio bod isadeiledd rheilffyrdd Cymru yn  “fwy priodol i’r 19eg ganrif na heddiw”.

Bydd yr Aelod Cynulliad yn teithio ar y trên, ac mi fydd yn gwneud hynny’n rhannol i dynnu sylw at safon y gwasanaeth sydd ohoni.

Mae disgwyl i’r siwrne bara am dros bum awr, a bydd yn rhaid iddo deithio trwy Loegr.

Addo “chwyldro”

“Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw chwyldro rheilffyrdd,” mae disgwyl iddo ddweud, “a dyna mae Plaid Cymru’n gynnig drwy ein Chwyldro Swyddi Gwyrdd.

“Byddwn yn creu rheilffordd traws-Cymru trwy ailagor y llinell rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac ymlaen i’r gogledd.

“Byddwn yn trydaneiddio pob prif linell, byddwn yn adeiladu metro yn y de ddwyrain a’r gogledd ddwyrain, a byddwn yn adeiladu Cross-rail newydd i’r Cymoedd.”