Mae Heddlu Dyfed-Powys Police yn gofyn am help y cyhoedd wedi i ddyn ymosod yn rhywiol ar ferch 16 oed yn Aberdaugleddau ddydd Llun (Rhagfyr 2).

Fe ddaeth dyn ac ymosod yn anweddus ar y ferch yn Pill Lane ger cyrtiau tenis y dref, rywbryd rhwng 4yp a 4.30yp.

Er i’r ferch lwyddo i ddianc o’r fan heb ei hanafu, mae hi wedi’i hysgwyd gan y digwyddiad.

Mae’r sawl y mae’r heddlu’n awyddus iawn i’w holi yn cael ei ddisgrifio fel dyn tal (tua 6 throedfedd), o gorffolaeth denau, ac acen leol. Y gred yw ei fod yn ei 20au, yn gwisgo trowsus tracwisg glas adeg yr ymosodad.