Mse Trefynwy a Llandrindod ymhlith y llefydd sydd â’r trigolion hapusaf yng ngwledydd Prydain, yn ôl arolwg newydd.

Rightmove sydd wedi cynnal yr arolwg, sy’n gosod Cymru’n bedwerydd ymhlith y gwledydd a’r rhanbarthau hapusaf yng ngwledydd Prydain.

Mae Trefynwy yn seithfed ar y rhestr, tra bod Llandrindod yn bumed.

Hexham yn Northumberland ddaeth i’r brig, tra bod pedair tref arall yng ngogledd Lloegr ar y rhestr – Harrogate, Skipton, Altrincham a Southport.

Yn cwblhau’r rhestr mae Richmond, Dorchester a Sevenoaks.

Cafodd mwy na 22,000 o bobol eu holi ar gyfer yr arolwg, gan nodi eu barn am ysbryd y gymuned, diogelwch, cyflogau a pha mor gyfeillgar yw eu cymdogion.

Cawson nhw eu holi hefyd am gyfleusterau chwaraeon a chelfyddydau, siopau, bwytai, meddygfeydd, ysgolion a llefydd gwyrdd.

Dyma restr y trefi yn llawn: 

  1. Hexham
  2. Harrogate
  3. Richmond
  4. Skipton
  5. Llandrindod
  6. Altrincham
  7. Trefynwy
  8. Dorchester
  9. Sevenoaks
  10. Southport

 

A dyma’r gwledydd a rhanbarthau hapusaf

 

  1. De-orllewin Lloegr
  2. De-ddwyrain Lloegr
  3. Dwyrain Lloegr
  4. Cymru
  5. Yr Alban
  6. Dwyrain Canolbarth Lloegr
  7. Swydd Efrog a Humber
  8. Gogledd-ddwyrain Lloegr
  9. Llundain
  10. Gorllewin Canolbarth Lloegr