Dyw mwy na thraean o seddi Cymru yn San Steffan ddim wedi newid dwylo ers yr Ail Ryfel Byd ond mi allai hynny newid eleni, yn ôl un arbenigwr.

Mae 14 o etholaethau Cymru wedi aros yn nwylo’r Blaid Lafur ers 1945 ac 11 o’r rheiny heb newid dwylo ers 1922, yn ôl arolwg gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

Yr unig sedd o’r rheiny sydd mewn peryg o newid y tro yma yw etholaeth Wrecsam, yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, sy’n dweud y bydd yn anodd iawn i Lafur ddal eu gafael arni.

Fel arall, meddai, mae’r diffyg newid yn creu diogi ymhlith yr holl bleidiau ac yn beryglus i’r Blaid Lafur ei hun.

Manylion yr arolwg

Mae ymchwil gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dangos bod 192 o seddi drwy Brydain (30% o’r holl seddi) heb newid dwylo ers yr Ail Ryfel Byd – gan effeithio ar 13.7 miliwn o bleidleiswyr. 

Mae 14 o’r seddi hyn yng Nghymru (35%), gyda phump heb newid ers mwy na chanrif a chwech arall yn nwylo Llafur ers 97 o flynyddoedd.

 

Yn ôl Roger Awan-Scully mae cael pleidiau gwahanol yn llywodraethu yn bwysig i ddemocratiaeth gan fod “buddugoliaeth ar ôl buddugoliaeth gan yr un blaid yn tueddu i gael effaith ar y pleidiau sydd yn colli, ond hefyd ar y pleidiau sydd yn ennill.” 

Ai ymlaen i egluro “gallai sefyllfaoedd fel hyn arwain at ddiogi gan y pleidiau ac ynysu ymgyrchoedd gwleidyddol.”

Cyfeiriau at sefyllfa debyg yn yr Alban yn 2015 – arweiniodd ymgyrchoedd cryf gan yr SNP bryd hynny ynghyd a diffyg yn ymgyrchoedd y blaid Lafur at newid mawr mewn nifer o seddi Llafur traddodiadol.

 

Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yn dadlau bod y diffyg newid mewn cynifer o seddi yn dystiolaeth o blaid newid y drefn etholiadau.

“Mae’r angen am gynrychiolaeth gyfrannol yr un mor wir yng Nghymru ag y mae ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar eu rhan.

 

Wrecsam yn newid?

Er fod arolygon barn ar ddechrau ymgyrch yr etholiad eleni wedi awgrymu y gallai Llafur golli nifer o seddi, o’r 14, dim ond Wrecsam sy’n parhau’n simsan, yn ôl Roger Awan-Scully.

“Ar ôl ennill pob un o’r chwe etholiad ar hugain diwethaf yng Nghymru, mae’n ymddangos bod Llafur bellach yn gwrthsefyll her gref y Ceidwadwyr” meddai.

Ond mae’n credu y bydd hi “yn anodd iawn i’r blaid Lafur gadw gafael ar sedd Wrecsam”. Hyd yn oed gyda’r pôl piniwn diweddara’, mae honno’n parhau’n debyg o syrthio i ddwylo’r Ceidwadwyr.

Yn dilyn ymddeoliad y cyn Aelod Seneddol Llafur Ian Lucas, Mary Wimbury yw ymgeisydd Llafur yn yr etholaeth eleni, ac yn ol yr athro Roger Awan-Scully “gall Llafur golli’r bleidlais bersonol” o ganlyniad.

 

  • Islwyn – heb newid ers 1910
  • Rhondda – 1910
  • Caerffili – 1918
  • Aberogwr – 1918
  • Torfaen – 1918
  • Aberafon – 1922
  • Cwm Cynon – 1922
  • Llanelli – 1922
  • Castell-nedd – 1922
  • Pontypridd – 1922
  • Dwyrain Abertawe – 1922
  • Wrecsam – 1935
  • De Caerdydd a Phenarth – 1945
  • Dwyrain Casnewydd – 1945