Mae holl wardiau Ysbyty’r Tywysog Phillip yn Llanelli wedi cau dros dro i ymwelwyr yn dilyn nifer o achosion o’r salwch stumog Norofeirws.

Mae Norofeirws yn achosi chwydu, twymyn  a dolur rhydd.

Mae’r cyfyngiadau dros dro wedi eu cyflwyno mewn ymdrech i atal y salwch rhag lledaenu.

Dim ond yn y prif ysbyty mae’r cyfyngiadau mewn grym ac mae ymwelwyr yn parhau i gael mynediad at Hosbis Tŷ Bryngwyn.

Mae cleifion sydd â threfniadau i fynd i apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu cynghori i fynychu fel yr arfer.

Mae’r sefyllfa yn cael ei fonitro yn gyson ac mae disgwyl y bydd diweddariad ar gael pan fydd y cyfyngiad ymwelwyr yn cael ei godi.

Mesurau 

Dywedodd Is-Gyfarwyddwr Nyrsio Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Sharon Daniel: “Mae nifer o achosion o Norofeirws wedi’u diagnosio, a dymunaf sicrhau ymwelwyr bod mesurau rheoli heintiau mewn lle i leihau’r risg o haint.

“Yn anffodus, yr adeg hon o’r flwyddyn, mae salwch gaeafol fel Norofeirws a ffliw yn fwy cyffredin ac mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n profi’r symptomau hyn yn dilyn cyngor hylendid syml. Mae hyn yn cynnwys golchi a sychu dwylo’n drwyadl, yn enwedig ar ôl bod i’r toiled a chyn trafod bwyd, er mwyn atal heintiau rhag cael eu trosglwyddo i eraill.

“Os ydych fel arall yn ffit ac yn iach, nid oes angen i chi fynd at eich Meddyg Teulu fel arfer; dylech orffwys adref nes eich bod yn teimlo’n well, gan gadw’n gynnes, yfed digonedd o ddŵr a chymryd tabledi lleddfu poen os oes angen. Gallwch hefyd helpu stopio heintiau rhag lledaenu  trwy osgoi cyswllt di-angen â phobl eraill tra eich bod yn heintus.”