Fe fydd arweinydd The Brexit Party, Nigel Farage, ar ymweliad å Sir y Fflint heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 2).

Mae disgwyl iddo ddatgelu polisïau Cymreig y blaid. Ymhlith y rheiny mae disgwyl addewid i adeiladu ffordd liniaru’r M4 ger Casnewydd.

Cafodd y cynllun ei wrthod gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni oherwydd pryderon am yr effaith amgylchedd.

Mae disgwyl i Nigel Farage ymweld â Bwcle bore ma.