Mae Ken Skates wedi beirniadu Grant Schapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, ynghylch ei sylwadau am gorff Trafnidiaeth Cymru.

Fe wnaeth Grant Schapps honni ar raglen Any Questions y BBC nad oedd ganddo fe gyfrifoldeb am drydaneiddio’r rheilffyrdd, ac mai mater i Lywodraeth Cymru oedd e.

Roedd y rhaglen Radio 4 yn cael ei darlledu o Gaerdydd ddoe, a thrydaneiddio’r rheilffyrdd yn un o’r prif bynciau trafod.

Mae rheoli’r rheilffyrdd o ddydd i ddydd wedi’i ddatganoli i Gymru ers 2006, ond mae gwella’r rheilffyrdd ac isadeiledd dan ofal Llywodraeth Prydain o hyd.

Mae Ken Skates yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o fod yn anonest.

‘Syfrdanol’

“Mae’r ffaith fod Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni’n eofn nad eu cyfrifoldeb nhw yw diweddariadau sylweddol i’n hisadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru yn syfrdanol,” meddai Ken Skates.

“Dylen nhw roi’r gorau i ddweud hanner gwireddau a chymryd cyfrifoldeb am yr hyn nad ydyn nhw wedi ei wneud.

“Y Torïaid oedd wedi canslo trydaneiddio i Abertawe yn 2017, a’r Torïaid sydd wedi gwneud dim i fynd ati i drydaneiddio’r rheilffyrdd i’r gogledd hefyd.”

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o roi “briwsion” i Gymru.