Mae cwmni sy’n gwerthu cynnyrch masnach deg ac eco gyfeillgar ar gyfer plant, yn cwyno eu bod nhw heb fynediad call i’r We ers symud eu busnes o Benrhyndeudraeth i Borthmadog.

Mae Teulu Brenhinol Lloegr wedi prynu eitemau gan Babi Pur, cwmni sy’n cyflogi tros 30 o bobol.

Fe symudon nhw’r busnes i Borthmadog yn ddiweddar ac mae yn hanfodol fod ganddyn nhw fynediad i’r We er mwyn gwerthu eu cynnyrch.

Cwmni dillad plant yn symud i hen ffatri Gelert ar gyrion Porthmadog

Trafferthion ers tro

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Babi Pur archebu ‘STTP Fibre Line’ yn ogystal â system ‘BOIP’ gan BT er mwyn gallu gwerthu tros y We.

“Daeth British Telecommunications Openreach yma fis Awst a dweud wrthym ni fod yna linell yn y ffordd tu allan oedd angen dod i mewn i’r adeilad, ond wnaeth yna ddim byd ddigwydd ar ôl hynny,” meddai Llinos Parry Williams sy’n rhedeg y cwmni.

Fe gwynodd Babi Pur am y sefyllfa ym mis Medi – yn y cyfamser oedden nhw yn gorfod dibynnu ar ffonau symudol er mwyn gweithredu ar y We.

Yn ôl Babi Pur maen nhw mewn sefyllfa “amhosib” gyda’r cwmni darparu rhyngrwyd British Telecommunications (BT).

Cyfnod prysur i’r cwmni’n cael ei effeithio

Gyda’r Nadolig yn agosáu, gallai’r sefyllfa ddim bod yn waeth i Babi Pur yn ôl un o’r rheolwyr.

“Mae o’n achosi gymaint o broblemau i ni, tydi o jyst ddim yn gweithio fel hyn,” meddai Llinos Parry Williams.

“Mae hi’n dod at ein adeg prysuraf o ran siopa Nadolig ac rydan ni mewn sefyllfa lle mae pobl methu gwneud eu gwaith yn iawn.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan BT.

Mae sawl un wedi galw ar BT i ddatrys y sefyllfa…