Carwyn Jones - 'ef ddylai fod yn arweinydd'
Fe ddylai’r Blaid Lafur yng Nghymru gael llais annibynnol cryfach, meddai un o’i gwleidyddion amlyca’.

Fe fyddai hynny’n golygu mai Carwyn Jones fyddai arweinydd y blaid Gymreig, nid Ed Miliband.

Ac fe ddylai newid ei hagwedd at fusnesau a chofleidio elfennau gorau’r sector preifat, meddai’r Farwnes Eluned Morgan.

Roedd y cyn Aelod o Senedd Ewrop yn traddodi’r ddarlith goffa gynta’ erioed yn enw Patrick Hannan, y newyddiadurwr a’r darlledwr.

Roedd honno wedi ei threfnu gan BBC Cymru ac fe fydd yn cael ei darlledu ar Radio Wales.

‘Rhaid cadw PR’

Fe dynnodd y Farwnes yn groes hefyd i lefarydd y blaid ar Gymru, Peter Hain, trwy ddweud bod angen cadw’r elfen o bleidleisio cyfrannol – PR – yn etholiadau’r Cynulliad.

“Dyw hi ddim yn iach i’r ychydig reoli ar ran llawer,” meddai. “Mae cael gwrthblaid feirniadol yn gwella safon penderfyniadau.”

Ac fe ddatgelodd fod gan y cyn arweinydd Prydeinig, Tony Blair, ran allweddol wrth sicrhau fod y blaid yn derbyn y drefn PR.

Carwyn nid Ed

Wrth olrhain hanes datganoli, fe ddywedodd na fyddai hynny wedi digwydd heb y Blaid Lafur ond roedd angen bellach i’r blaid ei hun addasu i’r amgylchiadau newydd.

“Mae’n amser i’r arweinydd yn y Cynulliad fod yn arweinydd ar y blaid yng Nghymru,” meddai wrth annerch yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

“Nid Ed Miliband ddylai fod yn arweinydd ar y blaid yng Nghymru, ond Carwyn Jones.”

Er hynny, roedd hi’n pwysleisio nad oedd eisiau i’r Blaid Lafur yng Nghymru dorri’n rhydd oddi wrth y blaid yng ngweddill gwledydd Prydain.

‘Angen newid agwedd at fusnes’

Y newid mawr arall, meddai, fyddai cofleidio busnesau da. A hithau bellach yn gweithio yn y sector preifat, roedd yn rhybuddio na allai arian cyhoeddus dynnu Cymru o’r argyfwng ariannol.

“Fe fydd y sector cyhoeddus yng Nghymru’n cael cosfa anferth,” meddai. “Fe fydd rhaid i ni weld peth diwygio ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Rhaid i greu swyddi fod yn brif flaenoriaeth. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol i’r blaid ailddiffinio ei pherthynas gyda’r sector preifat. Fe allwn ni gyflawni mwy gyda’n gilydd os byddwn ni’n cydweithio gyda’r sector preifat er lles y wlad.”