Wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol wneud colled ariannol am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Prif Weithredwr wedi cydnabod “pwysigrwydd bwydo’r cronfeydd wrth gefn”.

O’r cronfeydd yma daw’r arian i dalu am y golled o £158,982 a wnaed ym Mhrifwyl Llanrwst eleni…

Tywydd gwael wedi costio’n ddrud i Brifwyl Llanrwst

Cafwyd colledion o £290,139 ym mhrifwyl Caerdydd y llynedd wrth i’r trefnwyr arbrofi gyda maes agored wnaeth ddenu 500,000 o bobol –  tua 150,000 sy’n ymweld â’r Steddfod Genedlaethol ar wythnos arferol.

Mae gan y Steddfod £750,000 o arian wrth gefn, ond maen nhw angen dwbl hynny er mwyn cydymffurfio gyda’r arfer da sy’n cael ei argymell gan y Comisiwn Elusennau.

“Maen nhw yn dweud bod angen hyd at 25% o gost blynyddol gŵyl [wrth gefn],” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr y Steddfod, wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Fe gostiodd hi £5.6 miliwn i gynnal prifwyl Llanrwst eleni, felly mi fyddai 25% o’r swm hwnnw yn cyfateb i £1.4 miliwn.

Ac mae’r Prif Weithredwr yn cydnabod bod gwaith i’w wneud o ran cynyddu’r arian yn y cronfeydd wrth gefn.

“Mae’r rheina wedi cael ergyd,” meddai Betsan Moses, “ond y peth pwysig yw bod ganddo ni strategaeth mewn lle…

“Alla i ddim gorbwysleisio pwysigrwydd bwydo’r cronfeydd a’u bod nhw yna wrth gefn.

“Rydym ni wastad yn dweud y dyle bod yna 25% o gost gŵyl wrth gefn, a dyna beth mae’r Comisiwn Elusennau yn ddweud sy’n arfer da.

“Rydym ni yn edrych eto ar sut fedrwn ni ddatblygu’r cronfeydd yn fwy.”

Tregaron 2020

Mae’r trefnwyr yn ffyddiog na fydd yna straeon am broblemau gyda llifogydd a gorfod symud safle cyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2020.

“Rydym ni wedi gweithio gyda’r partneriaid i wirio’r safle,” eglura Betsan Moses.

“Mae Cyfoeth Naturiol [Cymru] wedi edrych ar y tiroedd a rhoi sêl bendith, a’r heddlu felly hefyd.

“Ac yn yr un modd rydym ni wedi gwneud ar gyfer Boduan [safle Steddfod 2021 ym Mhen Llŷn]]. Mi’r oedden ni yn cydweithio gyda phartneriaethau cyn ein bod ni yn gwneud penderfyniadau terfynol… i sicrhau bod y tiroedd yn addas…

“Felly mae hwnna yn un o’r newidiadau a wnaed yn dilyn problemau a ddigwyddodd ar gyfer y Maes eleni.”

Mwy am sefyllfa ariannol y Steddfod yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg