Mae angen darparu “addysg wleidyddol well” i bobol ifanc Cymru er mwyn eu “sbarduno” i bleidleisio yn yr etholiad Cynulliad nesaf.

Daw sylw Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) Cymru, wedi i Aelodau Cynulliad gymeradwyo cynlluniau i roi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed.

O etholiad nesaf y Cynulliad ymlaen bydd modd i’r pobol ifanc yma gymryd rhan, ac mae’r cyfarwyddwr yn croesawu hynny’n fawr.

Er hynny, mae’n pryderu bod ymwybyddiaeth ieuenctid Cymru yn annigonol, ac mae’n credu bod cyfrifoldeb ar i Lywodraeth Cymru, a’r Cynulliad, a’r Comisiwn Etholiadol, weithio ar y cyd i fynd i’r afael â hynny.

“Dw i’n credu bod angen mawr yn awr i wneud yn siŵr bod yr ehangiad yma yn mynd ochr yn ochr ag ehangiad addysg gwleidyddol o fewn ysgolion Cymreig…” meddai wrth golwg360.

“Rydym wedi bod yn siarad â phobol ifanc ac mae’n glir bod angen pecyn effeithiol iawn arnom a fyddai’n rhoi’r holl wybodaeth sydd angen arnyn nhw am y broses o bleidleisio, pwy yw’r pleidiau, a thros beth maen nhw’n sefyll.

“Mae angen rhywbeth i’w sbarduno i bleidleisio.”

Hwb i’r chwith?

Pleidleisiodd rhengoedd y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn ymestyn y bleidlais, ac mae rhai’n pryderu bydd y cam yn cynyddu’r gefnogaeth at bleidiau asgell chwith.

Yr hen ystrydeb yw bod pobol ifanc yn fwy eangfrydig nag oedolion, ond mae Jess Blair yn gwrthod hynny i raddau.

“Mae pobol ifanc mwy na thebyg yn gynrychiadol [representative] o weddill cymdeithas yn ei chyfanrwydd,” meddai.

“Dw i ddim yn credu ei bod hi’n deg dweud eu bod nhw ar y cyfan yn mynd i bleidleisio tros bleidiau asgell chwith. Dw i ddim yn credu bod hynny’n gywir.

“A dyw hynny’n sicr ddim yn wir am y bobol ifanc rydym ni wedi bod yn siarad â nhw sydd gydag ystod o ddaliadau.”