Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud ei bod am i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) barhau yn 2021.

Ond dywedodd fod hyn yn amodol ar Lywodraeth Cymru’n parhau i dderbyn lefelau cyllid digonol ar gyfer cymorth amaethyddol oddi wrth Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig.

Y llynedd, cyhoeddodd Lesley Griffiths  y byddai Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau heb ei newid yn 2020.

Ers hynny, mae dyddiad Brexit wedi’i ohirio ac mae cynlluniau i bontio o gynlluniau Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd i Raglen Rheoli Tir newydd wedi cael eu gohirio.

Mae’r Gweinidog wedi dweud ei bod yn bwriadu ffurfio math o Gynllun y Taliad Sylfaenol am flwyddyn arall.

Golygai hyn mai 2022 yw’r cynharaf y gellir dechrau ar y cyfnod pontio i’r system gymorth ffermio newydd wedi’i dargedu i ffermydd.

Dywedodd Lesley Griffiths: “Yn sgil yr ansicrwydd sy’n parhau, rwy’n cyhoeddi fy mwriad i ymestyn Cynllun y Taliad Sylfaenol i 2021, ar yr amod y bydd Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn darparu cyllid digonol ar gyfer cymorth amaethyddol.

“Gan edrych ymhellach tua’r dyfodol, rwy’n bwriadu parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit ond mewn ffordd ddoethach. Bydd y rhain yn newidiadau arwyddocaol i’r sector ac maent yn dibynnu’n llwyr ar bryd y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu’r un lefelau cyllido i Gymru – nid yw’r naill beth na’r llall wedi’i gadarnhau eto.”

NFU Cymru yn croesawu’r newyddion

Mae undeb amaethwyr NFU Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lesley Griffiths.

“Rydym yn parchu yn llwyr fod yr Etholiad Cyffredinol yn golygu nad oes gan y Gweinidog warantau gan San Steffan ynghylch dyfodol ariannu Cymru,” meddai Pennaeth NFU Cymru John Davies.

“Ond rwyf yn falch fod y Prif Weinidog a’r Gweinidog Materion Gwledig wedi ei gwneud hi’n glir eu bod yn bwriadu gwarchod gwariant ar gyfer ffermio Cymreig.”