Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi lansio ei maniffesto Etholiad Cyffredinol yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw ( Dydd Llun, Tachwedd 25).

Mae’r maniffesto yn amlinellu’r hyn mae’r Undeb yn teimlo dylai fod yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig, o ran amaethyddiaeth.

Wrth siarad yn y Ffair Aeaf, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts bod  Brexit “wedi hollti’r Senedd, pleidiau gwleidyddol a’r genedl”.

Dywed Glyn Roberts fod angen i wleidyddion fod yn onest gyda nhw eu hunain a’r etholwyr ynghylch Brexit.

“Pontio’r rhaniadau”

Mae’n ychwanegu fod angen amserlen ar gyfer newidiadau sy’n anrhydeddu’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond fod angen parchu’r mwyafrif sy’n gwrthwynebu gadael heb gytundeb masnach.

“Pwy bynnag sy’n cael eu hethol i’r Senedd, a pha bynnag blaid, neu bleidiau, sy’n ffurfio Llywodraeth, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn credu bod yn rhaid iddyn nhw ymdrechu i bontio’r rhaniadau sydd wedi ymddangos ers mis Mehefin 2016, a chydnabod mai dim ond dros amser a thrwy weithio’n barchus gyda’r rhai sydd â gwahanol farn y gellir gwneud hyn,” meddai.

Newid hinsawdd

Wrth drafod newid hinsawdd, dywed Glyn Roberts bod yn rhaid i’n diwydiant ffermio “chwarae rhan ganolog wrth liniaru’r risgiau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mewn modd nad yw’n peryglu cynhyrchu bwyd a’r ffermydd teuluol sy’n dal ein cymunedau ynghyd.”