Fe fydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn Wrecsam heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25) i lansio maniffesto etholiadol Llafur Cymru.

Fe fydd e’n amlinellu sut fydd y blaid yng Nghymru’n cydweithio ag aelodau seneddol y blaid yn San Steffan pe baen nhw’n dod i rym o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth cadarnhad gan y blaid yn San Steffan sut fydden nhw’n cefnogi Cymru yn dilyn degawd o lymder o dan y Llywodraeth Geidwadol.

Maen nhw’n addo gwario mwy ar y Gwasanaeth Iechyd, gwarchod pensiynau, codi safonau byw teuluoedd, band llydan cyflym i bawb, buddsoddi mewn swyddi a chymunedau a Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd.

£3.4bn ychwanegol

Byddai terfyn ar lymder, meddai’r blaid, yn golygu cyllido £3.4bn ychwanegol y flwyddyn i Gymru, a fyddai’n eu helpu i ymestyn gofal cymdeithasol rhad ac am ddim, dileu ffioedd dysgu a rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau bychain a chanolig trwy Fanc Datblygu Cymru.

Bydd Mark Drakeford yn honni bod Llafur Cymru wedi dylanwadu ar bolisïau’r blaid yn San Steffan, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, swyddogion ar bob trên a gwahardd ffracio, yn ogystal â dileu costau claddu plant.

Bydd Llafur Cymru hefyd yn galw am degwch i gyn-lowyr yng Nghymru wrth iddyn nhw hawlio’u pensiwn, gyda sicrwydd y bydd 90% o’r arian dros ben o gronfa arbennig yn aros yn nwylo aelodau.

‘Gwaith balch’

 Mae disgwyl iddo ddweud bod maniffesto Llafur Cymru “yn gwneud yn glir y gwaith balch y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i sefyll lan dros Gymru; i warchod pobol mewn gwaith ac i warchod ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rhag yr hyn mae’r Torïaid yn San Steffan wedi’i wneud”.

Fe fydd yn dweud bod Llafur Cymru wedi:

  • cadw’r Gwasanaeth Iechyd “yn nwylo’r cyhoedd”
  • creu miloedd o swyddi a phrentisiaethau o safon uchel
  • sicrhau bod ynni adnewyddadwy wrth galon popeth
  • sicrhau’r buddsoddiad mwyaf (£3.7bn) mewn ysgolion a cholegau newydd

Bydd eu penderfyniadau yn ystod y tymor nesaf, meddai, “yn siapio ein bywydau ar gyfer y genhedlaeth nesaf”.