Mae Plaid Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â rhoi digon o sylw i faterion niwclear yn ei maniffesto.

Cafodd y ddogfen ei lansio heddiw (Tachwedd 22), ac ymhlith y prif gyhoeddiadau mae’r ymrwymiad i wario £20 biliwn ar chwyldro swyddi gwyrdd.

Mae’r maniffesto yn cadarnhau gwrthwynebiad y Blaid at arfau niwclear, ac mae’n nodi: “byddwn yn … gwrthwynebu datblygu safleoedd newydd ar gyfer gorsafoedd niwclear”.

Mae ambell un wedi tynnu sylw at y ffaith bod y geiriad yma’n benagored – dyw gorsafoedd Trawsfynydd a Wylfa ddim yn newydd – ac mae’r ymgyrchydd Robat Idris yn “siomedig”.

“Byddai’n well gan Blaid Cymru beidio â thrafod [niwclear] o gwbl, am y rheswm eu bod nhw’n gwybod bod sgitsoffrenia tros y pwnc o fewn y Blaid,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n deillio o amser Ieuan Wyn Jones yn arweinydd, yn fy marn i. Os ewch yn ôl ymhellach yn hanes y blaid, maen nhw’n gryf iawn yn erbyn niwclear…

“Roedden nhw’n gwrthwynebu adeiladu unrhyw atomfa, unrhyw le yng Nghymru. Mae’r ddeuoliaeth yna yn bodoli.

“Ac mae o yn ymwneud â chanfyddiadau etholiad byr dymor, baswn i’n ddweud.”

“Y drwg niwclear yn y caws”

Ymgyrchydd tros fudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yw Robat Idris, ac mae’r Blaid hefyd wedi beirniadu maniffesto’r Blaid Lafur.

Mae’r Llafur yn ymrwymo i “wneud y mwyaf o botensial ynni niwclear newydd ynghyd â buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy.”

Mae hefyd yn ceryddu’r Ceidwadwyr am fethu pobol Ynys Môn trwy fethu â gwireddu prosiect Wylfa Newydd. Mae datganiad pawb yn galw’r maniffesto’n “drwg Niwclear yn y caws”.

Mae golwg360 wedi holi Plaid Cymru am ymateb.