Mae’r Ceidwadwyr yn addo peidio â chwtogi cyllid i ffermwyr Prydeinig os ddawn nhw i rym yn dilyn yr etholiad cyffredinol fi s nesaf.

Brexit neu beidio, mae’r Torïaid yn addo’r un faint o nawdd i ffermwyr am y pum mlynedd nesaf.

Ond gan fod Amaeth wedi ei ddatganoli i Gaerdydd, a gan mai Llywodraeth Llafur sydd mewn grym, mae Andrew RT Davies yn cydnabod y byddai’n rhaid ei disodli yn etholiad Cynulliad 2021 er mwyn gwarantu’r sybsidi i ffermwyr Cymru.

“Mae gennym yr ymrwymiad yma gan Lywodraeth San Steffan ynghylch buddsoddi,” meddai’r Aelod Cynulliad wrth golwg360. “Ac mewn llai na 18 mis mae gennym gyfle i gael etholiad Cynulliad – ym mis Mai 2021. Mae’n gyfle i gael gwared ar y Llafur Cymru diog a di-glem a’u ffrindiau cenedlaetholgar.

“Gallwn roi Llywodraeth synnwyr cyffredin yno sydd ddim jest yn bodloni â’r drefn sydd ohoni, ond yn dechrau tanio’r potensial sydd gan y wlad. Ac yn rhoi cyfle i’r to nesaf o ffermwyr ifainc.

“Mae’r ymrwymiad yma gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r cyfle i gael gwared ar Lywodraeth Llafur Cymru … yn golygu ein bod yn gallu newid pethau a gwneud cyfleon yn llawer gwell i gymunedau gwledig.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.