Mae “system dameidiog” yn gadael dioddefwyr a goroeswyr cam-drin a thrais rhywiol i lawr, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’n dweud bod gwasanaethau’n “anghyson, yn gymhleth ac yn dymor byr”, a bod y wybodaeth sydd ar gael “yn annibynadwy” ac nad yw’n rhoi “darlun eglur o faint y broblem”.

Does dim gwybodaeth lawn am ba ddioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus nac am ba wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’n nodi “peth cynnydd da” o ran gweithio’n rhanbarthol, codi ymwybyddiaeth a chyflwyno hyfforddiant”, ond yn dweud bod yna wendidau o ran “cyflawni’r agweddau allweddol ar y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)”.

Mae cyllido’n dal yn her, meddai, a hynny am fod “gormod o ddulliau gwahanol sy’n gorgyffwrdd ac yn anghyson â’i gilydd ledled Cymru”.

Mae’n canmol gwaith rhaglenni yn Abertawe a Rhondda Cynon Taf o ran y ffordd mae “gwasanaethau’n gwell”, ond yn dweud bod “llawer o waith i’w wneud o hyd” o ran ymateb cyrff cyhoeddus wrth gynnig cymorth i oroeswyr  dioddefwyr.

Argymhellion

Mae’n gwneud nifer o argymhellion, sef:

  • bod gwaith i asesu anghenion a mapio’r ddarpariaeth gwasanaethau gan gyrff cyhoeddus yn cael sylw o’r newydd a bod y modd y caiff pobl eu cynnwys yn cael ei ehangu a’i wella;
  • bod asiantaethau darparu (awdurdodau lleol, cyrff iechyd, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub a’r trydydd sector) yn adolygu eu dull o weithio’n rhanbarthol i integreiddio gwasanaethau’n well a chynyddu i’r eithaf yr effaith gadarnhaol y gallant ei chael er ddioddefwyr a goroeswyr;
  • bod awdurdodau lleol yn adolygu eu trefniadau comisiynu i gael gwared ar ddyblygu a gorgyffwrdd; rhesymoli trefniadau gweinyddu; symleiddio a safoni trefniadau comisiynu; a phennu mesurau perfformiad, targedau a meincnodau priodol.

“Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn yn union cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Menywod,” meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol.

“Mae’n achos pryder canfod, bedair blynedd ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon a oedd yn torri tir newydd, bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i gael eu gadael i lawr gan system anghyson a chymhleth.

“Mae cydweithio a gweithio ar y cyd yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn effeithlon ac yn effeithiol, yn enwedig o ystyried natur dameidiog y trefniadau darparu ar draws cyrff cyhoeddus.”