Mae llawfeddyg dan y lach ar ôl iddo fethu â datgelu ei fod e wedi arllwys cynnwys stumog rhoddwr organau wrth eu tynnu mewn ysbyty yng Nghymru.

Cafodd yr organau, oedd wedi’u tynnu gan feddyg o Rydychen, eu defnyddio mewn trawsblaniadau yn ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod y llawfeddyg wedi torri stumog y rhoddwr trwy ddamwain, ond nad oedd e wedi dweud wrth unrhyw un nac wedi ei gofnodi.

Cafodd nifer o’r organau eu heintio cyn eu rhoi yng nghyrff tri chlaf.

Bu farw un claf 36 oed yn sgil yr haint mewn afu, a bu’n rhaid tynnu aren claff 25 oed ar ôl i’r haint ei daro’n wael.

Roedd claf arall, 44, yn sâl ar ôl cael trawsblaniad aren a phancreas ond fe wellodd yn ddiweddarach.

Daeth y digwyddiad i’r amlwg ar ôl i lawfeddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dynnu sylw’r awdurdodau a Llywodraeth Cymru ato.

Llawfeddyg

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd y llawfeddyg o Rydychen nad oedd yn cofio unrhyw beth anarferol wrth dynnu’r organau yn 2015.

Ond erbyn meddwl, meddai, roedd wedi torri stumog claf yn ystod llawdriniaeth a hynny wedi achosi i gynnwys y stumog orlifo.

Doedd dim cofnod o’r digwyddiad ar y pryd, oedd yn golygu nad oedd y rhai fyddai’n derbyn yr organau’n ymwybodol o heintiau posib.

Mae’r claf 25 oed wedi dwyn achos yn erbyn Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Rhydychen, ac wedi derbyn iawndal o fwy na £215,000.

Mae’r bwrdd hefyd wedi cyfaddef iddyn nhw fethu yn eu dyletswyddau yn sgil diffyg cofnod gan y llawfeddyg o’r digwyddiad.

Mae’r claf wedi cael anafiadau a allai gwtogi hyd eu bywyd.