Mae’r darlledwr John Humphrys yn dweud y byddai cynnal ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn “annemocrataidd”.

Fe bleidleisiodd e o blaid aros yn 2016, meddai.

Ond mae’n dweud bod y syniad y dylai’r Deyrnas Unedig aros yn Ewrop oherwydd y diffyg gwybodaeth oedd ar gael i ymadawyr yn ei wneud e’n “grac”.

Fe fu’r darlledwr, oedd wedi ymddeol o’r BBC yn gynharach eleni, yn llafar ynghylch y Gorfforaeth a gwleidyddiaeth yn ddiweddar, gan ladd yn benodol ar duedd asgell chwith y BBC.

Mae’n dweud nad oes modd anwybyddu canlyniad refferendwm mewn cyfundrefn ddemocrataidd.

“Yr hyn dw i’n mynd yn grac yn ei gylch e – a dw i’n siarad fel rhywun oedd wedi pleidleisio dros aros, cofiwch – yw’r syniad na chafodd y bobol a bleidleisiodd dros adael y wybodaeth oedd ei hangen neu wedi methu â deall y goblygiadau,” meddai mewn cynhadledd yn Llundain.

“Ond drwy ryw wyrth, fe gafodd y bobol oedd wedi pleidleisio dros aros [y wybodaeth].

“Dw i ddim yn dilyn hynny oherwydd yr hyn mae’n ei ddweud wrtha i yw…

“Er fy mod i wedi pleidleisio dros aros, dw i wedi credu ers i’r bleidlais gael ei chyhoeddi fis Mehefin dair blynedd yn ôl fod rhaid i ni adael.”