Mae teuluoedd dau weithiwr rheilffordd fu farw ar ôl cael eu taro gan drên, wedi dweud eu bod nhw’n benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw un arall yn cael eu lladd mewn amgylchiadau tebyg.

Bu farw Michael “Spike” Lewis, 58, a Gareth Delbridge, 64, wrth wneud gwaith i Network Rail ar y cledrau ger Port Talbot ym mis Gorffennaf.

Mae tri ymchwiliad yn cael eu cynnal i’w marwolaethau – un gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd, Swyddfa’r Ffyrdd a Rheilffyrdd a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Roedd adroddiad cychwynnol gan Network Rail wedi dweud bod Michael Lewis, o ogledd Corneli, a Gareth Delbridge, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn defnyddio offer swnllyd ac yn gwisgo clustffonau pan ddigwyddodd y ddamwain a’i fod yn bosib nad oedden nhw wedi clywed y trên yn agosáu.

Yn ogystal, nid oedd unrhyw un yn cadw llygad i weld a oedd trenau’n agosáu pan gawson nhw eu taro gan drên oedd yn teithio ar gyflymder o 70mya rhwng Abertawe a Llundain Paddington. Yn ôl yr adroddiad roedd gyrrwr y trên wedi ceisio rhybuddio’r gweithwyr ei fod yn agosáu drwy ganu corn sawl gwaith.

Dywed Network Rail y byddan nhw’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad cyn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

“Bwlch enfawr”

Wrth siarad ar ran y ddau deulu, dywedodd  Adrian Grant, mab yng nghyfraith Gareth Delbridge, y byddan nhw’n gwneud popeth posib i geisio darganfod beth ddigwyddodd.

Ychwanegodd eu bod yn gweithio gyda’r ymchwiliadau swyddogol “er mwyn sicrhau cyfiawnder i’r bechgyn ac fel na all rhywbeth fel hyn ddigwydd eto.”

Dywedodd bod eu marwolaethau wedi gadael “bwlch enfawr” yn eu bywydau a’r cymunedau lle’r oedden nhw’n byw.

Mae’r teuluoedd wedi penodi cwmni cyfreithwyr Hugh James i’w cynrychioli mewn achos sifil yn erbyn Network Rail gan honni eu bod yn esgeulus yn eu dyletswydd i ofalu am eu gweithwyr.