Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes 46 oed yn Aberhonddu.

Does dim eglurhad ynghylch marwolaeth Lorraine Price, meddai’r heddlu a gafodd eu galw i Talbot Terrace yn y dref neithiwr (nos Sul, Tachwedd 17).

Daethon nhw o hyd i’w chorff mewn eiddo yno, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’i marwolaeth, ond eu bod nhw’n awyddus i wybod beth ddigwyddodd iddi dros y dyddiau diwethaf.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi ei gweld hi rhwng bore Iau (Tachwedd 14) a neithiwr (nos Sul, Tachwedd 17).

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.