Mae Plaid Cymru wedi atal aelod o’r blaid yn dilyn honiadau ei bod i wedi gwneud sylwadau hanesyddol gwrth-semitaidd ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd Sahar Al-Faifi wedi ymddangos yn narllediad etholiadol Plaid Cymru, gafodd ei ddarlledu ar S4C, BBC Wales, ac ITV Wales.

Dywedodd y blaid mewn datganiad nad ydyn nhw’n derbyn gwrth-semitiaeth na hiliaeth “o unrhyw fath.”

Cafodd y sylwadau honedig eu gwneud ar y gwefannau Facebook a Twitter yn 2012 a 2014.

Yn y datganiad dywedodd Plaid Cymru: “Rydym wedi gweithredu i atal y person yma. Byddwn yn ymchwilio i’r holl honiadau.

“Ni fydd Plaid Cymru yn goddef gwrth-semitiaeth, hiliaeth neu anoddefgarwch o unrhyw fath. Mae hynny yn cynnwys y gamdriniaeth ffiaidd mae’r unigolyn wedi ei dderbyn. Dydi hynny ddim yn rhan o’r Gymru rydym eisiau ei adeiladu.”

“Difaru”

Mae Sahar Al-Faifi  wedi cyhoeddi datganiad ar ei chyfrif trydar yn ymateb i’r sylwadau honedig. Dywedodd:  “Rai blynyddoedd yn ôl fe wnes i lond llaw o sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol rwy’n difaru eu gwneud.”

Ychwanegodd ei bod wedi dileu’r sylwadau mwy na phum mlynedd yn ôl a’i bod wedi ymddiheuro wrth sefydliadau Iddewig ac eraill.

Dywedodd ei bod hefyd wedi gwneud hyfforddiant gwrth-semitiaeth “er mwyn sicrhau na fydda’i byth yn gwneud yr un camgymeriadau eto.”

Cefndir

Ymddangosodd Sahar Al-Faifi yn narllediad etholiadol Plaid Cymru nos Iau (Tachwedd 14).

Dywedodd Plaid Cymru ar Trydar fod y darllediad wedi derbyn “ymateb islamophobaidd” sydd “yn annerbyniol.”

Roedd Sahar Al-Faifi hefyd wedi ymddangos mewn darllediad ar BBC Wales yn trafod ei chrefydd.
Anfonodd y blaid drydariad yn dweud: “Mae Cymru yn wlad gyda chefndiroedd amrywiol. Rydym i gyd yn Gymry. Rydym i gyd yn hafal.”