Bu farw’r Parchedig John Owen, Bethesda. Roedd yn 91 oed ac wedi bod yn rhan o fywyd Dyffryn Ogwen am dros hanner canrif.

Fe gafodd ei fagu yn uniaith Gymraeg ar fferm Cefn Groes Fawr, Llansannan, cyn iddo benderfynu mynd i Goleg Clwyd (a mynd ati i ddysgu Saesneg) yn ddyn ifanc er mwyn ennill ei le yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.

Fe dreuliodd gyfnod wedyn yn astudio Athroniaeth yng Nghaerdydd, ac yn byw ym Merthyr Tudful, cyn dychwelyd i’r gogledd yn weinidog yn ardal Bryncroes a Sarn Mellteyrn yn Llŷn. Yna, fe gafodd ei alw i Ddyffryn Ogwen, lle cododd ei gartref ei hun yn ardal Cilfodan, a lle treuliodd weddill ei weinidogaeth yn gofalu am gapeli Jerwsalem, y Carneddi a’r Gerlan.

Yn ystod ei yrfa, fe ddaeth y garddwr a’r darllenwr sensitif ac annwyl dan y lach am herio’r sefydliad – yn enwedig wrth sefyll gyda phobol ifanc yr ardal yn ystod protestiadau iaith y 1960au a’r 1970au – ac fe dreuliodd ef ei hun gyfnod yng ngharchar fel rhan o’r ymgyrch i sicrhau sianel Gymraeg.

Ym myd crefydd hefyd, fe ddaeth John Owen yn ffigwr dadleuol pan yn ysgrifennydd Pwyllgor Strategaeth yr Hen Gorff (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) yn ardal Arfon, a mynd ati i weithredu’r weledigaeth o gau ac addasu capeli. Erbyn heddiw, mae ei waith yn y cyfeiriad hwnnw yn cael ei ystyried yn arloesol ac angenrheidiol, ac yn esiampl o’r hyn a ddylai fod wedi digwydd ledled Cymru.

Fe gafodd cynulleidfa Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen neithiwr (nos Wener, Tachwedd 15) gyfle i gofio John Owen, trwy gymryd ychydig funudau allan o’r cystadlu i sefyll mewn tawelwch.