Mae Warren Gatland, cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi awgrymu bod un o chwaraewyr Cymru wedi cymryd cyffuriau.

Fe adawodd yr hyfforddwr ei swydd ar ôl Cwpan y Byd ar ôl 12 mlynedd yn y swydd.

Ac fe ddaeth ei sylwadau wrth iddo fe gymryd rhan mewn podlediad, ond mae’n dweud nad oes ganddo fe dystiolaeth o ddrwgweithredu yn ystod ei gyfnod yntau wrth y llyw.

Yn ystod podlediad Off The Ball, trafododd yr hyfforddwr o Seland Newydd nifer o faterion yn ymwneud â rygbi, cyn dechrau trafod mater cyffuriau.

“Y peth trist am chwaraeon proffesiynol, p’un a yw’n gêm tîm neu unigol, pan fo arian ynghlwm, mae yna botensial iddi gael ei hecsbloetio gyda chyffuriau sy’n gwella perfformiad,” meddai ar ddechrau’r drafodaeth.

“Dw i’n credu ein bod ni am iddi aros mor lân â phosib.

“Dw i, yn bersonol, ddim wedi dod ar draws unrhyw chwaraewr dw i wedi ei hyfforddi o safbwynt Cymru y byddwn i… wel sori, efallai un.

“Ie, efallai un, erbyn meddwl.”

Eglurhad

Pan gafodd ei holi ymhellach, dywedodd Warren Gatland fod y chwaraewr “o bosib” wedi chwarae i Gymru.

“Ond mae hynny yn ystod fy holl gyfnod yn hyfforddi Cymru,” meddai wedyn.

“Ond hoffwn i feddwl fod y gamp yn lân.

“O safbwynt rhywun o Seland Newydd, dw i’n credu ei bod hi’n eitha’ glân.”

Ond fe ddywedodd fod cyffuriau’n gallu bod yn broblemau ar lefelau is yn y gêm.

“Mae yna demtasiwn o hyd mewn chwaraewyr sydd eisiau ceisio chwarae ar lefel uwch, ac maen nhw’n cymryd risg drwy gymryd cyffuriau.

“Dw i’n sicr ddim yn cymeradwyo hynny.”

‘Dim tystiolaeth’

Ond wrth droi ei sylw eto at Gymru, dywedodd ei bod yn “annheg” dweud ei fod yn amau chwaraewr oherwydd nad oes ganddo fe “unrhyw dystiolaeth”.

“Mae hi fel dweud, ‘Oes yna bosibilrwydd?’

“Roedd yn debycach i rywrai yn gwneud jôc, y math yna o beth.”

Mae Undeb Rygbi Cymru’n gwrthod gwneud sylw am y mater.