Mae cyngor sir yn y Gorllewin yn gofyn am gyfraniadau o bunt y dydd gan rieni tuag at gynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.

Er bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi pwysleisio mai cyfraniad gwirfoddol tuag at y gofal mae plant yn ei gael sydd dan sylw, mae nifer o rieni wedi codi amheuon am y sefyllfa.

Cafodd y cynllun ‘brecwast am ddim’ ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2004 gyda’r bwriad o helpu plant i gael y cychwyn gorau posib i’w bore yn yr ysgol.

Dywed Pennaeth Mynediad i Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, Simon Davies: “Mae’r clwb brecwast yn darparu cefnogaeth i rieni neu warchodwyr drwy ddarparu brecwast am ddim.

“Er mwyn cefnogi hyfywdra’r clwb brecwast, gall rhieni neu warchodwyr roi cyfraniad tuag at gynnal y clwb brecwast.

“Does dim angen i rieni neu warchodwyr sy’n defnyddio cinio ysgol am ddim neu’n cael trafferthion ariannol roi cyfraniad.”