Llai o bwyslais ar ysbytai
Fe fydd rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd chwyldroi ei ffordd o weithio er mwyn dod trwy’r argyfwng ariannol, yn ôl corff iechyd annibynnol.

Mae’n rhaid rhoi’r gorau i’r ddibyniaeth ar ysbytai a rhoi mwy o gefnogaeth i bobol yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau, meddai Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sy’n cynrychioli casgliad o gyrff yn y maes.

“Mae hyn yn gwbl allweddol os yw’r Gwasanaeth am dorri ar gostau a gwella gwasanaethau i bobol yn y dyfodol,” meddai Prif Weithredwr y Conffederasiwn, Helen Birtwhistle.

Roedd hi’n ymateb i adroddiad gan Archwiliwr Cenedlaethol Cymru am gyflwr ariannol y Gwasanaeth.

“Rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd drawsnewid ei ffordd o weithio,” meddai. “Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru’n ymwybodol o’r brys i wneud y newidiadau yna – ein gwaith ni’n awr yw cynnwys y cyhoedd, cleifion a staff i egluro a gweithio trwy’r dewisiadau.”