Mae Corrie Chiswell wedi gwneud ei henw yn y cylchoedd celf am ei phortreadau trawiadol o ferched – ond nawr mae ganddi lun o Andy Murray yn ymdebygu i’r Brenin Arthur.

Ac mae mam y chwaraewr tenis Albanaidd wedi trydar i ddweud ‘Waw!’ mewn ymateb i’r llun.

Wedi magu yng Nghaeredin, mae Corrie Chiswell wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl ac yn magu ei dwy o ferched hi a’i chyn-ŵr, y canwr Huw Chiswell.

Ac mae ei brawd Nial Smith yn arlunydd adnabyddus yn yr Alban am gynllunio posteri Hollywood ffug gyda’r chwaraewr tenis, Andy Murray, yn serennu ynddyn nhw.

Mae Judy Murray, mam Andy, wedi bod yn ail-drydar ei ddarluniau ar Twitter, ac fe gafodd y dylunydd ei wahodd i wylio gêm derfynol y chwaraewr tenis yn Wimbledon gyda’r teulu.

Ond am nad yw Nial Smith yn gallu gwneud arian o’i luniau oherwydd cymhlethdodau hawlfraint, mae wedi gofyn i’w chwaer greu darlun clasurol o’i bortread o Andy Murray fel y Brenin Arthur, yn tynnu raced denis o garreg.

“Do’n i ddim yn siŵr sut oedd e’n mynd i weithio,” meddai Corrie Chiswell.

“Mae fel rhywun yn gofyn i chi gyfro un o’u caneuon. Mae’n rhywbeth precious. R’yn ni wedi gweithio gyda’n gilydd o’r blaen, ond nid am sbel.

“Mae’r llun nawr jyst wedi gorffen. Mae Judy Murray wedi ail-drydar y llun hanner ffordd drwodd a dweud ‘waw!’ felly d’yn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd gyda fe.”

Mae’r llun gwreiddiol ganddi hi yn ei thŷ yn aros i gael ei fframio – ond mae eisoes wedi gwerthu tair proflen o’r darlun, a hynny lawr yng Nghaerdydd.

Merch i gyfansoddwr ‘Flower of Scotland’

Mae Corrie Chsiwell yn ferch i Bill Smith o fand y Corries.

Mae’r grŵp sy’n enwog am gyfansoddi’r gân ‘Flower of Scotland’, sydd wedi cael ei mabwysiadu yn anthem yr Alban.

“Nid jyst canwr oedd fy nhad, ond arlunydd, a phensaer,” meddai. “Dyna o ble r’yn ni wedi cael e’, gan fy nhad.

“Roedd fy nhad a fy mam wedi ysgaru pan oeddwn i’n ifanc. Roedd e’n byw yn y Dwyrain Canol am y rhan fwyaf o’i fywyd. Mae e’ gartref yn yr Alban nawr, wedi ymddeol ac yn gwneud lot o waith i’r SNP dros annibyniaeth. Mae’n gallu gweld y golau, yn gallu ei weld yn digwydd, wedi dod gartref.”

Mwy am luniau Corrie Chiswell yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg