Wrth i John ac Alun gyhoeddi albym newydd o’r enw Cyrraedd y Cychwyn, mae un o’r ddeuawd wedi bod yn trafod y ffaith eu bod yn parhau yn boblogaidd gyda phobol o bob oed.

Fe gyhoeddodd y ddau eu halbym gyntaf yn 1991 ac maen nhw wedi ffilmio cyfresi i S4C ac mae ganddyn nhw raglen ar Radio Cymru sy’n denu 12,000 i wrando.

Roedd gig John ac Alun yng Ngwesty’r Gwalchmai ym Môn wedi gwerthu allan nos Sadwrn diwethaf, a’r un yw’r stori ar gyfer eu gig yn Neuadd Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin nos Sadwrn yma.

Maen nhw mor boblogaidd ag erioed… a hynny gyda phobol o bob oed.

Sut mae’r ddeuawd yn teimlo am hyn?

“Mae o’n dychryn ni,” meddai Alun Roberts. “Mi fyddan ni [yn nhafarn] Penlan ym Mhwllheli ar y trydydd ar ddeg o Ragfyr, ac rydan ni’n gwybod rŵan mai criw ifanc fydd yno.

“Mae o fel ryw gig blynyddol Dolig John ac Alun rydan ni’n ei wneud ers pedair, pum mlynedd.

“Ac mi fydd y lle yn orlawn, pob math o oedran. Ond y rhan fwyaf ohonyn nhw yn bobol ifanc… ac maen nhw yn sefyll yn ffrynt, ac mae o’n dy ddychryn di weithiau eu bod nhw yn gwybod y geiriau i gyd.”

Dal i rocio yn 65 oed

Am y tro cyntaf yn eu hanes, ar yr albym newydd mae Alun Roberts yn canu’r prif lais ar un o draciau’r albym.

Mae ‘Ble Mae Fy Sbectol’ yn gân bluegrass fachog sy’n cynnwys mandolin a feiolin brysur.

“Mi ddoth y gân yna o rywle,” eglura Alun Roberts, “ac mae hi’n ymwneud efo’r syniad yma o fod yn 65 oed a’r hen go’ yn dechrau mynd. Dwyt ti ddim yn cofio cystal ag oeddet ti erstalwm. A’r ffordd o’i egluro fo orau ydy: ‘lle ddiawl mae fy sbectol i wedi mynd?’”

Mae  Alun Roberts yn 65 oed ac wedi ymddeol yn ddiweddar.

“Dw i newydd gael y taliad pensiwn cyntaf erioed… sut uffarn mae rhywun i fod i fyw ar hundred and forty quid yr wsos, Duw a ŵyr!”

Mwy am gasgliad newydd John ac Alun yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg