Mae’r gweinidog iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cytundeb newydd i sicrhau bod meddyginiaeth ffeibrosis systig ar gael yng Nghymru.

Daeth y cytundeb yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Caffael GIG Cymru a Vertex i ddarparu’r feddyginiaeth yng Ngwasanaeth Iechyd Nghymru o dan yr un amodau a gafodd Gwasanaeth Iechyd Lloegr.

Mae’r gwaith o gwblhau manylion y cytundeb rhwng Vertex a Gwasanaeth Caffael Iechyd Cymru bellach ar y gweill.

Y gobaith yw cwblhau’r cytundeb cyn diwedd Tachwedd i ganiatáu i’r cleifion â’r flaenoriaeth uchaf gael mynediad i driniaeth ym mis Rhagfyr, a phob claf cymwys arall o 2020 ymlaen.