Fe fydd Boyd Clack yn ceisio ennill sedd Gorllewin Caerdydd i Blaid Cymru yn San Steffan.

Mae’r actor, awdur a cherddor yn fwyaf adnabyddus am y cyfresi teledu Satellite City a High Hopes a’r ffilm Twin Town.

Fe fu’n ymgyrchydd brwd tros annibyniaeth i Gymru ers rhai misoedd, ac mae’n cefnogi nifer sylweddol o elusennau yn y brifddinas.

Bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Ragfyr 12.

‘Amser hanesyddol i Gymru’

“Daw’r etholiad hwn ar amser hanesyddol i Gymru,” meddai Boyd Clack, yn dilyn newyddion am ei ymgeisyddiaeth.

“Mae’r bygythiad i ni o du sefydliad Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn San Steffan yn fawr, ond mae’r cyfle sydd gennym i roi Cymru’n gyntaf ac i lywio’n dyfodol ein hunain yn fwy eto.

“Dw i’n falch ac yn freintiedig o gael cynrychioli Plaid Cymru yn ngorllewin Caerdydd.

“Mae hon yn etholaeth wych sy’n golygu cymaint, nid yn unig i’n prifddinas, ond i Gymru gyfan, a dw i’n edrych ymlaen at siarad â phleidleiswyr yng ngorllewin Caerdydd am ein neges bositif.

“Y gwirionedd trasig yw fod Cymru wedi cael ei siomi a’i hanghofio gan sefydliad San Steffan ers cenedlaethau – a dw i ddim yn gweld hynny’n newid yn fuan.

“Mae’n bryd i ni gefnogi ein hunain, cefnogi Cymru a chefnogi Plaid Cymru.”

‘Ychwanegiad gwych’

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi llongyfarch Boyd Clack.

“Yn wyneb cyfarwydd i bawb yng Nghymru, mae Boyd wedi bod yn llafar iawn yn ei gefnogaeth i annibyniaeth eleni,” meddai.

“Byddai’n ychwanegiad gwych i’n tîm yn San Steffan, gan siarad dros Gymru a rhoi ein cymunedau’n gyntaf.

“Gyda Johnson a Corbyn, y cyfan rydyn ni’n ei gael yw mwy o anhrefn Brexit, ond ni sy’n rhoi Cymru’n gyntaf.”