Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo ger Wrecsam neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 12).

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i ardal Holt toc ar ôl 9 o’r gloch.

Daethon nhw o hyd i gorff y dyn, oedd yn ei 80au, y tu fewn i’r adeilad.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.