Mae Neil McEvoy wedi cyhuddo’r Llywydd Elin Jones o beidio bod yn ddiduedd.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod Neil McEvoy wedi bod yn gwneud recordiau cudd o Gomisiynydd Safonau’r Cynulliad, Syr Roderick Evans – sydd bellach wedi ymddiswyddo.

Mae Neil McEvoy yn honni ei fod wedi clywed recordiad o Syr Roderick Evans ac aelod o’i staff yn ei alw yn “annymunol, pathetig, mochyn ac yn grocodeil”.

Mae Elin Jones wedi cyhoeddi fod Heddlu’r De yn ymchwilio i sut gafodd y recordiau eu gwneud.

“Golygfeydd gwaradwyddus yn EIN Senedd,” meddai Neil McEvoy ar Twitter heddiw. “Ymosododd y Llywydd arna i, ond wnaeth hi ddim caniatáu pwynt trefn. Chefais i ddim ymateb.”

Aeth ymlaen i ddweud fod yr aelod Brexit Party, Mark Reckless, “yn iawn i godi’r ffaith nad
yw’r Llywydd yn ddiduedd”.

Mae Mark Reckless hefyd wedi cyhuddo Elin Jones o beidio bod yn ddiduedd a gwnaeth hynny yn y siambr heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 12).

Mae Elin Jones wedi ymateb yn y siambr trwy ddweud iddi gael ei chyhuddo o “beidio bod yn ddiduedd gan aelod o’r Cynulliad…” a’i bod yn galw arno i “dynnu ei sylwadau yn ôl”,