Wylfa
Mae disgwyl i Jill Evans ASE, Plaid Cymru ddweud mewn cynhadledd Cymru Werdd Di-Niwclear ei bod yn “gwbl argyhoeddedig nad oes angen ynni niwclear”  a chyda’r un buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy  y “gall Cymru arwain y ffordd.”

Mae Jill Evans ASE yn un o siaradwyr cynhadledd Cymru Werdd Di-Nwclear fydd yn cael ei gynnal yn Galeri Caernarfon ddydd Sadwrn. “Mi fydd y cyfarfod yma’n gyfle i ni drafod polisïau ynni Cymru,”  meddai Jill Evans wrth Golwg360.

“Rwyf wedi ymgyrchu yn erbyn ynni niwclear ers degawdau, ac rwy’n gwbl argyhoeddedig nad oes ei angen. Mae ynni niwclear yn beryglus, yn ddrud a dylai fe ddim chwarae rhan mewn unrhyw bolisi cynaliadwy,” meddai.

“Gyda’r un buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a chadwraeth ynni ag sydd mewn niwclear, gall Cymru arwain y ffordd,” meddai.

‘Tensiynau gwleidyddol’

Yng nghynhadledd PAWB yn y Galeri, Caernarfon ar 22 Hydref, un o’r prif siaradwyr yw Mark Dearey o Blaid Werdd Iwerddon.

Fe fu’n ymgyrchydd gwrth-niwclear ers y 90au cynnar pan fu’n gwrthwynebu adeiladu gwaith THORP yn Sellafield.

“Mae ynni niwclear yn dal i greu tensiynau gwleidyddol tra byddai cydweithio ar uwchgrid ynni cynaliadwy yn gallu dwyn ein gwledydd yn agosach at ei gilydd. Gallai Iwerddon gyda’i ynni gwyrdd sylweddol a’i phoblogaeth fach fod yn helpu dyfodol ynni Prydain a sicrhau ei sefydlogrwydd economaidd ei hun,” meddai Mark Dearey.

Wylfa B

Fe fydd  trefnwyr y gynhadledd, hefyd yn trafod bygythiad Wylfa B i drigolion y cymunedau agosaf at y safle.

Fe  fydd y  Parchedig Emlyn Richards, Cemaes yn lleisio’i  wrthwynebiad ac yn cyflwyno Richard Jones, o Gaerdegog, Llanfechell sydd wedi gwrthod gwerthu ei dir i Horizon Nuclear sydd am brynu 65 erw o’i dir gorau.

Bydd y gynhadledd yn cychwyn am 10 y bore.