Mae datganiad gan Lywydd y Cynulliad wedi’i ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru amser cinio heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 12) drannoeth ymddiswyddiad y Comisiynydd Safonau.

Fe ddaw yn sgil ymddiswyddiad Roderick Evans oherwydd i “Aelod Cynulliad” fod yn recordio sgyrsiau preifat yn gudd.

Mae Neil McEvoy wedi cadarnhau mai ef yw’r Aelod dan sylw, ac mae wedi cynnal cynhadledd heddiw ar y mater.

“Mae recordio sgyrsiau preifat yn gudd yn fater difrifol a byddwn yn gofyn i Heddlu De Cymru ymchwilio i sut y cafwyd recordiadau o’r fath,” meddai Elin Jones yn ei datganiad.

“Gwnaed trefniadau i ysgubo ystâd y Senedd er mwyn dod o hyd i unrhyw ddyfeisiau gwyliadwriaeth electronig di-awdurdod. “