Mae pryderon am effaith Fframwaith Datblygu Cymru ar ddyfodol y Gymraeg yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin a’r gogledd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni, ar ôl gweld copi drafft, y gallai’r adroddiad fod yn “niweidiol iawn i sefyllfa’r iaith” yn y ddwy ardal.

Mae’r Fframwaith yn nodi’r meysydd y dylid eu blaenoriaethu wrth geisio tyfu’r Gymraeg rhwng 2020 a 2040.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gofidio bod ardaloedd Sir Gaerfyrddin ac Abertawe wedi’u cynnwys yn yr un rhanbarth, ac mai un rhanbarth yw’r gogledd. Mae pryder hefyd ynghylch diffyg polisi er mwyn tyfu’r Gymraeg mewn cymunedau lle mai’r Gymraeg yw’r brif iaith sy’n cael ei siarad.

Ymhlith y pryderon eraill mae’r pwyslais ar ddatblygiadau tai yn Sir Gaerfyrddin, y gogleddorllewin a’r gogledd-ddwyrain, sy’n ardaloedd sydd wedi’u clustnodi ar gyfer ceisio tyfu’r Gymraeg.

Mae hybu cynlluniau trafnidiaeth sy’n annog pobol i fudo o’r gorllewin i’r dwyrain yn hytrach nag o’r de i’r gogledd hefyd yn cael effaith niweidiol, meddai’r Gymdeithas.

Bydd yr ymgynghoriad ar y ddogfen ddrafft yn dod i ben ddydd Gwener (Tachwedd 15).

‘Fframwaith Datblygu Western Britain’

Yn ôl Robat Idris, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, mae’r cynllun yn debycach i “Fframwaith Datblygu Western Britain” na Fframwaith Datblygu Cymru.

“Gellid honni fod y Fframwaith hwn wedi ei gam-enwi,” meddai. “Mae llawer o’r argymhellion yn gwneud i’r holl beth swnio fel ymgais i fod yn rhan o ryw Fframwaith Datblygu Western Britain.

“Mae’n anghyfforddus o agos at syniadaeth y ‘Western Gateway’ sy’n ceisio clymu deddwyrain Cymru efo Bryste; y ‘Northern Powerhouse’ sy’n cysylltu Gogledd Cymru efo Gogledd Lloegr hyd at yr Humber yn Ngogledd Ddwyrain Lloegr; a’r ‘Midlands Engine’ sy’n tynnu Canolbarth Cymru fwyfwy at Ganolbarth Lloegr.

“O’r herwydd ymylol ac arwynebol yw’r sylw i’r iaith Gymraeg. Fframwaith Datblygu Cenedlaethol” meddai’r Llywodraeth – ond byddai Fframwaith Ecsploetio Cymru yn deitl mwy addas.”