Fe fydd arweinydd Plaid Cymru’n cyhoeddi cynlluniau newydd i geisio sicrhau annibyniaeth i Gymru mewn cyfarfod yng Nghaernarfon nos Fawrth.

Mewn neges yn gwahodd holl aelodau Plaid Cymru i’r cyfarfod, dywed Adam Price y bydd yn amlinellu sut y gellir troi Cymru “yn genedl hyderus o blaid annibynniaeth”.

Wrth addo y bydd Plaid Cymru’n “rhoi cwestiwn annibyniaeth Cymru ar yr agenda wleidyddol yn yr etholiad hwn”, meddai:

“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld miloedd yn gorymdeithio o blaid annibyniaeth polau piniwn yn dangos fod Cymru bellach yn genedl sydd wir yn ystyried annibyniaeth fel opsiwn go iawn.

“Mae’r dyfodol rydyn ni wedi breuddwydio amdano ers cenedlaethau o fewn ein gafael.”

Fe fydd y cyfarfod yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon am 6.30 nos Fawrth.

Mae Plaid Cymru’n cynnal y cyfarfod yn ei hetholaeth fwyaf ymylol, lle mae Hywel Williams yn ceisio amddiffyn y sedd gyda mwyafrif o 92 dros y Blaid Lafur.