Mae canwr roc a’i gariad yn gobeithio agor bwyty seicedelig yn Llanrwst a fydd yn cynnal gigs a nosweithiau comedi.

Cafodd cwmni Ffika ei sefydlu gan Megg Lloyd pan oedd yn 19 blwydd oed, a dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn teithio ledled y gogledd yn gwerthu bwyd a choffi o’i fan.

Ond yn awr, a hithau’n 24 oed, mae wedi penderfynu dod o hyd i gartref parhaol i’w busnes ac agor caffi yn Llanrwst gyda’i chariad, Ben Ellis – y psych-rocar o Sen Segur gynt.

Daw Megg Lloyd o Gaernarfon yn wreiddiol ond mae wedi byw am flynyddoedd yn Llanrwst, ac mae’n dweud bod y dref yn gartref naturiol i gaffi Ffika.

“Mae’n teimlo fel bod lle i ni yn Llanrwst,” meddai wrth golwg360. “Mae lot o bobol ifanc a dim gymaint yn mynd ymlaen. Roedd o’n bwysig i fi aros yng ngogledd Cymru.

“Mae lot o bobol sy’n dalentog yn eu meysydd ac sy’n dod o rownd ffordd hyn yn dewis symud i ffwrdd i wneud eu pethau nhw gan fod mwy o ryddid – mwy o gyfleon i wneud pethau, dw i’n cymryd.

“Roedden ni eisiau sefydlu rhywbeth yn fan hyn achos bod galw amdano, yn bendant. Pam ddim aros yng Nghymru a gwneud o?”

Bydd digwyddiadau, gigs, a nosweithiau comedi yn cael eu cynnal yn y caffi, ac yn ôl y perchennog  mi “fydd o’n braf cael space i roi pethau ymlaen”.

Enw o Sweden

Mae Megg Lloyd yn gobeithio bydd y caffi yn agor ar ddiwedd y mis, ac yn sgil hyn mi fydd yn rhoi’r gorau i werthu coffi o’r fan tan fis Mai.

Mae gan fan Ffika batrymau seicedelig arni a gafodd eu paentio gan artist, a bydd rhagor o waith y paentiwr yma yn cael ei arddangos yn y caffi.

Daw enw’r cwmni o’r gair Swedeg ‘fika’, ac mae Megg Lloyd yn egluro bod ymweliad â’r wlad honno wedi ei hysbrydoli.

“Wnes i jest ddisgyn mewn cariad gyda cultural thing ‘fika’ yn Sweden,” meddai. “Wnes i jest ddefnyddio’r enw oherwydd hynna really. Does dim cysylltiad mawr na dim byd…

“Mae’n fwy na jest cael coffi. Mae’n amser o’r dydd i ymlacio, a chael chat, a chael panad a rhywbeth melys i fwyta, fel arfer.”