Mae arweinydd Cylch Meithrin o Gymru sy’n fam feichiog wedi croesawu cynlluniau’r Blaid Lafur i ymestyn y cyfnod mamolaeth.

Gydag ymgyrchu etholiadol yn mynd rhagddo, mae’r blaid wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymestyn y cyfnod ar gyfer tâl mamolaeth statudol o naw mis i flwyddyn, pe baen nhw yn dod i rym.

Ym marn Catrin Glyn Owen, arweinydd Cylch Meithrin Rhostryfan, mae’r syniad hwnnw yn un da gan y byddai’n golygu llai o bwysau ar famau.

 hithau’n fam i ddau blentyn ac yn disgwyl un arall, mae hefyd yn credu bod 12 mis yn fwy addas gan mai dyna yw hyd y cyfnod o fwydo baban o’r fron.

“Mi fuasai yn golygu mwy o amser efo plant,” meddai Catrin Glyn Owen wrth golwg360.

“Ac ni fyddai mamau yn gorfod stresio am fynd yn ôl i’r gwaith. Does dim pres [erbyn diwedd y naw mis], yn enwedig os ydych yn gweithio i chi eich hun. Dydy o ddim yn llawer…

“Hefyd, mae’n dibynnu ar os ydy’r fam yn bwydo’i hun. Dim ond y fam fuasai’n gallu bod off adeg hynna. Dyna dw i’n ei wneud.”

Mae blwyddyn yn hen ddigon o amser yn ei barn hi, gan fod mamau’n cael “itchy feet” ac eisiau mynd yn ôl i “routine” wedi hynny.

Y cynlluniau

Ar hyn o bryd, yn ystod chwe wythnos gyntaf eu cyfnod mamolaeth, mae menywod yn cael derbyn 90% o’u cyflog wythnosol cyfartalog.

Mae hynny wedyn yn parhau am 33 wythnos arall – wnawn nhw dderbyn £148.68 yr wythnos am weddill y cyfnod yma.

Mae Llafur am ymestyn y cyfnod yma fel ei fod yn para am flwyddyn. Dyw cyfraith cyflogi ddim wedi ei ddatganoli i Gymru, felly rydym dan yr un drefn â Lloegr.