Fe fydd arweinydd Plaid Brexit, Nigel Farage, ar ymweliad â de Cymru heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 8) gyda’r bwriad o dargedu seddi traddodiadol Llafur.

Yn ystod ymweliad â Phont-y-pŵl a Chasnewydd mae disgwyl y bydd Nigel Farage yn cyhuddo arweinyddiaeth y Blaid Lafur o “fradychu’r” rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit.

Mae’n debyg fod Nigel Farage yn dal i obeithio sicrhau cynghrair gyda’r Ceidwadwyr er mwyn sicrhau fod Brexit yn digwydd – rhywbeth mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ei wfftio ar sawl achlysur.

“Boris Johnson yn cynnig rhywbeth sydd ddim yn Brexit”

Mae Nigel Farage wedi bod yn hynod feirniadol o gytundeb Brexit Boris Johnson â’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fis diwethaf bod y cytundeb yn “warthus” gan honni nad oedd Boris Johnson yn parchu canlyniad refferendwm 2016.

“Mae Boris Johnson yn cynnig rhywbeth sydd ddim yn Brexit ac sydd ddim yn cyflawni Brexit,” meddai ar BBC Radio 4.

Fe fydd Plaid Brexit yn sefyll mewn 650 o seddi yn yr etholiad ar Ragfyr 12 os nad yw’r Prif Weinidog yn diddymu ei gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.