Mae’n “ddealladwy” fod Plaid Cymru wedi ildio sedd Sir Drefaldwyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ôl ei harweinydd ar Gyngor Powys.

Roedd y Cynghorydd Elwyn Evans wedi cael ei ddewis i herio’r sedd i’r Blaid yn yr etholiad cyffredinol, ond dros y penwythnos dywedodd y Pwyllgor Gwaith wrtho na fyddai’n sefyll yn ei henw hi.

Bellach mae Plaid Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi taro bargen â’r Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac fel rhan o’r cytundeb byddan nhw’n camu o’r neilltu yn Sir Drefaldwyn.

Ddechrau’r wythnos, roedd Elwyn Evans yn dweud fod pobol yr ardal yn “lloerig” â’r sefyllfa, ond erbyn hyn mae ei safiad wedi meddalu.

“Yn amlwg mae’r rhyddfrydwyr gyda hanes hir ym Maldwyn, ac felly mae’n rhesymol eu bod nhw’n targedu ac eisiau hoelio sylw fan hynny – fel ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed,” meddai wrth golwg360.

“Hynny yw, mae i gyd yn ddealladwy. Mae rhywun yn gallu deall hefyd y darlun mawr, ac yn y blaen.”

Pwrpas y ddêl rhwng y tair plaid yw cynyddu’r posibiliad o bleidiau sydd yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ennill seddi.

Sefyll yn annibynnol?

Mae’r cynghorydd yn dweud na fydd yn sefyll yn annibynnol er ei fod yn “siomedig” Steffan, a fydd e ddim chwaith yn bwrw pleidlais tros y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae hefyd yn tybio bod llawer o bleidwyr yr etholaeth yn mynd i gael hi’n anodd pleidleisio tros y blaid honno.

“Dyw nifer fawr ddim yn mynd i bleidleisio, neu maen nhw’n mynd i ddifetha eu pleidleisiau,” meddai.

“Y gwir ydi, er bod pleidiau gwleidyddol yn gallu gwneud cytundebau mae’n anodd iawn trosglwyddo aelodau, ac yn y blaen, drosodd. Ar ddiwedd y dydd mae fyny i’r unigolion.”