Mae Arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, wedi cefnu ar y blaid.

Ef yw’r seithfed Aelod Cynulliad i adael y blaid, a bellach dim ond Neil Hamilton sy’n parhau i’w chynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Bydd Gareth Bennett yn parhau’n Aelod Cynulliad annibynnol, ac mae wedi ymrwymo i “gefnogi dêl Boris Johnson”, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Wrth gamu i lawr, mae wedi cyhuddo Plaid Brexit ac UKIP o geisio “tanseilio Brexit” trwy beidio â chyfaddawdu a derbyn Brexit meddalach.

“Mae yna berygl os na fydd dêl Boris Johnson yn cael ei basio fyddwn ni ddim yn gadael o gwbwl,” meddai.

“Mae’r rheiny ohonom a oedd eisiau dêl galetach yn gorfod derbyn yn awr yn gorfod sylweddoli mai dêl Boris yw’r gorau y gallwn ei gael ar hyn o bryd. Alla’ i ddim dal ati i gefnogi safiad afrealistig UKIP ar Brexit.”

Colli aelodau

Fe ymunodd pedwar Aelod Cynulliad – Mark Reckless, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands – â The Brexit Party ym mis Mai ar ôl cefnu ar UKIP.

Mae Michelle Brown yn dal i fod yn Aelod Cynulliad annibynnol ar ôl gadael UKIP ym mis Mawrth.

Collodd UKIP pob un o’i Aelodau Seneddol Ewropeaidd ym mis Mai wrth i Blaid Brexit gipio mwyafrif o seddi ledled y Deyrnas Unedig.