Fe fydd llywydd NFU Cymru yn dweud yng nghynhadledd flynyddol yr undeb heddiw (dydd Iau, Tachwedd 7) fod gan ffermwyr Cymru y sgiliau i ateb heriau’r sector.

Mae disgwyl i John Davies agor y gynhadledd flynyddol yn Llandrindod gyda’r neges fod modd ateb heriau’r sector tra’n cynhyrchu bwyd fforddadwy o safon uchel, gan leihau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd.

Mae disgwyl iddo ddweud fod angen lliniaru polisïau Llywodraeth Cymru os yw’r sector am gyrraedd ei botensial llawn.

Fe fydd yn annog Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, i sicrhau bod polisïau’r dyfodol yn gwarchod rôl ffermwyr fel cynhyrchwyr bwyd.

Yn ystod ei anerchiad, fe fydd hefyd yn ategu gwrthwynebiad NFU Cymru i Brexit heb gytundeb.

Yr anerchiad

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau, unigolion amlwg a rhai yn y cyfryngau sydd wedi ceisio beirniadu’r hyn sy’n annwyl i ni,” meddai yn y drafft o’r anerchiad.

“Gadewch i fi fod yn glir fod yr hyn maen nhw’n ei bortreadu ymhell o realiti ffermio yng Nghymru.

“Mae’n fendith fod gennym adnoddau naturiol i gynhyrchu protin o’r safon uchaf ar ffurf cig oen a chig eidion PGI sy’n blasu’n wych, ac sy’n llawn protin a haearn, ynghyd â chynnyrch llaeth sy’n frith o galsiwm i adeiladu esgryn cryf a dannedd iach.

“Mae ein sectorau dofednod, âr a garddwriaeth yn chwarae rhan fach ond yr un mor bwysig wrth sicrhau bod ffermio Cymru’n gwneud cyfraniad economaidd, amgylcheddol a diwylliannol heb ei ail i Gymru.

“Fel diwydiant, rydym yn glir fod gennym ragor i’w wneud.”

Targedau

Fe fydd John Davies yn amlinellu nifer o dargedau, gan gynnwys cyrraedd net sero o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2040.

Bydd yn galw am fwyd fforddadwy o’r safon uchaf, incwm sefydlog i ffermwyr ac adfywio cefn gwlad tra’n gwarchod adnoddau naturiol.

“Gellir gwireddu hyn drwy bolisi sydd wedi’i adeiladu o gwmpas tair conglfaen amgylchedd, cynhyrchu a sefydlogrwydd; polisi sy’n sicrhau bod cefnogaeth yn y dyfodol yn targedu busnsesau ffermio teuluol sy’n cynhyrchu bwyd yn weithredol.”

Brexit

Mae disgwyl iddo ddweud nad yw Brexit, na gohirio’r broses, wedi newid fawr ddim o ran ei effaith ar ffermio.

“Tra bod amserlen Brexit wedi newid, yr un yw’r opsiynau o hyd. A fyddwn ni’n gadael gyda chytundeb, ‘heb gytundeb’ neu a fydd yna Brexit o gwbwl?

“Rwy am fod yn hollol glir fod NFU Cymru yn parhau i fynnu, os gwnawn ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae’n rhaid ei fod mewn ffordd drefnus gan sicrhau masnachu rhydd heb wrthdaro i’n marchnadoedd allforio pwysicaf yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Bydd e hefyd yn dweud nad oes lle i Brexit beryglu safonau bwyd yng Nghymru.

“Rwy hefyd am egluro nad oes lle i negodi ar ein safonau.

“Does dim modd aberthu’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru na’i safonau cynhyrchu uchel fel rhan o ymgais unrhyw lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol i brofi eu bod nhw’n gallu sicrhau cytundeb masnach rydd yn gyflym a hawdd.”