Mae Plaid Cymru yn galw ar yr Ysgrifennydd Cymru newydd i ystyried trydaneiddio’r rheilffordd yn y de ac i atgyfodi cynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Daw’r alwad gan Gwyn Williams, ymgeisydd seneddol y Blaid yng Ngorllewin Abertawe, yn dilyn ymddiswyddiad Alun Cairns ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 6).

Mae hefyd yn galw am fwy o drafod â’r Cynulliad ar enw Pont Tywysog Cymru, yn dilyn beirniadaeth o’r enw a gafodd ei ddewis i anrhydeddu Tywysog Charles yn gynharach eleni.

“Dylai llywodraeth y Deyrnas Gyfunol roi golau gwyrdd i’r ddau gynllun pwysig hyn a sicrhau bargen well i Gymru,” meddai.

“Fe ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol newydd hefyd ddiddymu’r syniad gwarthus o foddi Cymru mewn rhanbarth annelwig Gorllewin Prydain a thrafod gyda’n Cynulliad Cenedlaethol etholedig ni gwestiwn enw derbynio ar gyfer ail groesfan yr Hafren.”