Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn 51 oed yn dilyn marwolaeth Shane O’Rourke yn Rhydaman.

Mae Kevin Fitzgerald, hefyd o Rydaman, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 5).

Fe gafodd ei arestio ddydd Sadwrn, wedi i swyddogion ddod o hyd i Shane O’Rourke wedi’i anafu mewn cyfeiriad yn y dref. Bu farw yn ddiweddarach.