Bu farw Arianwen Parry, sylfaenydd siop llyfrau Cymraeg gyntaf Cymru yn Llanrwst.

Yn  wreiddiol o Dycroes, Rhydaman bu’n byw yn Nyffryn Conwy gyda’i diweddar ŵr Dafydd Parri, awdur cyfres y Llewod, am bron i hanner canrif. Roedd yn fam i bump o blant,  yn nain i 9 o wyrion a wyresau, ac yn hen nain i ddau.

Ymhlith ei phump o blant y mae Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd; y gwr busnes a’r cogydd, Deiniol ap Dafydd; a’r newyddiadurwr a’r darlledwr, Iolo ap Dafydd.

Bu’n aelod o bwyllgor cenedlaethol mudiad Ysgolion Meithrin ac yn aelod o Ferched y Wawr yn Nyffryn Conwy. Dechreuodd ei diddordeb mewn llenyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru tra’n athrawes am saith mlynedd yn nhref Crewe yn Lloegr. Roedd yn  aelod o’r Gymdeithas Gymraeg yno.

Bu’n un o filoedd o ymgyrchwyr dros sefydlu Sianel Deledu Gymraeg yn y 1970’au. Gwrthododd dalu am drwydded, ac oni bai i’w dirwy gael ei dalu gan gymwynaswr di-enw, byddai wedi wynebu dedfryd o garchar. Bu’n aelod o Blaid Cymru, ac roedd yn daer ei chef ogaeth i genedlaetholdeb Cymreig.

Trôdd at yr Eglwys Gatholig pan yn ifanc, a glynodd at y ffydd Babyddol gan bererindota i Lourdes yn Ffrainc sawl tro. Magodd ei phlant yn eglwysi Catholig Trefriw, Llanrwst a Betws-y-coed.

Bu farw ei gwr Dafydd Parri, yn 2001.