Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 30 oed yn Rhydaman.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 12.30 brynhawn dydd Sadwrn (Tachwedd 2), lle daethon nhw o hyd i gorff.

Daeth cadarnhad bellach mae Shane O’Rourke yw enw’r dyn fu farw, ac mae ei deulu’n dweud ei fod e “wedi’i garu gan gynifer o bobol”.

Cafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae’r llall wedi’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Mae’r dyn 51 oed wedi’i gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.