Mae Nigel Owens a chwmni ceir Citroën yn cael eu beirniadu am hysbyseb newydd sy’n dangos y dyfarnwr rygbi’n dofi “arth”.

Ar ddechrau’r hysbyseb, mae’r Cymro Cymraeg o Fynyddcerrig yn gwisgo tuxedo wrth yrru trwy’r goedwig, lle mae’n gweld arth yng nghanol yr heol.

Mae’n gadael ei gar ac yn cyfarch yr anifail â’r geiriau “Let’s have a chat”, cyn torri ei wallt a’i fwydo â danteithion oddi ar blât arian.

Mae’r arth i’w weld wedyn yn eistedd ar gadair yn chwarae’r soddgrwth cyn gwisgo tuxedo a chamu i mewn i’r car ac eistedd yn ymyl y dyfarnwr.

Mae’n gorffen gyda’r frawddeg, “And that, mes amis, is how you tame ‘Le Beast’.

Ymateb Nigel Owens

Wrth ymateb i feirniadaeth ar wefan gymdeithasol Twitter gan ddefnyddiwr o’r enw Katie Marshall, mae Nigel Owens yn gofyn i un beirniad “ddefnyddio ychydig o synnwyr cyffredin”.

“Dyn yw e wedi gwisgo fel arth.

“Fyddwn i fyth yn ymrwymo fy hun i unrhyw beth fel hyn pe bai’n arth go iawn.

“Peth nesaf, fyddwch chi’n dweud wrthym ni i beidio â chefnogi’r elusen hyfryd Plant Mewn Angen o ganlyniad i Pudsey Bear.”

Wrth gynnig rhagor o sylwadau, dywed Nigel Owens fod “y byd wedi mynd yn wallgof” a bod “pethau mwy difrifol yn y byd i boeni amdanyn nhw”.

Roedd ei neges wedi cael ei hail-drydar bron i 300 o weithiau, gyda bron i 300 o bobol wedi gwneud sylwadau, a bron i 6,000 o bobol wedi ei hoffi. Mae neges wreiddiol Katie Marshall wedi cael ei dileu erbyn hyn, ac mae’n debyg ei bod hi wedi blocio cyfrif Nigel Owens.