Mae trefnwyr Sioe Caernarfon wedi ymddiheuro ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad eleni oherwydd ffliw ceffylau.

Roedd disgwyl i’r sioe gael ei chynnal yn Wern Ddu dros y penwythnos.

Daw’r newyddion ar ôl i symtomau’r ffliw gael eu canfod mewn pum anifail o Wrecsam ganol yr wythnos.

Ymddiheuriad

Mae ymddiheuriad wedi’i gyhoeddi ar wefan y trefnwyr.

“Mae’n wir ddrwg gan Aelodau Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Amaethyddol Gogledd Cymru orfod hysbysu, yn dilyn cyfarfod brys o’r Pwyllgor Rheoli, daethpwyd i benderfyniad i ganslo’r sioe dydd Sadwrn oherwydd y ffliw ceffylau sydd wedi torri allan,” meddai.

“Mae’n wir ddrwg gennym am hyn.”